Llais y disgybl

Etholir Cynghorwyr Ysgol gan y disgyblion. Mae pob grŵp blwyddyn, o flwyddyn 2 i fyny, yn ethol dau ddisgybl i’w cynrychioli ar y cyngor ysgol.

Ein haelodau presennol o Gyngor yr Ysgol yw:

Mae’r Cyngor Ysgol yn cyfarfod o leiaf ddwywaith yr hanner tymor. Maent yn trafod materion sy’n effeithio ar y dysgwyr ac yn trafod syniadau a allai wella’r ysgol. Caiff eu syniadau eu rhoi ar waith mewn Cynllun Datblygu.

Gwahoddir aelodau’r Cyngor Ysgol i roi adroddiad i Gorff Llywodraethu Ffederal ysgolion Cross Hands a Drefach.