Gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 5 i fynd i Ysgol Maes y Gwendraeth i gymryd rhan mewn gweithdy gwyddonol gyda Mr Jonathan Williams , Pennaeth Adran Ffiseg.
Gan ddefnyddio robot wedi ei wneud o Lego, defnyddiodd y disgyblion eu sgiliau codio er mwyn gwneud i’r robot symud ar hyd llwybr penodol.
Ar ol cwpwl o ymdrechion aflwyddiannus, llwyddodd pob robot i symud ar hyd y llwbr igam ogam yn gywir.